Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mehefin 2017
Amser:
09.07 -
12.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4151
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld felHTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gareth Bennett AC a Sian Gwenllian AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitem 6 o'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.
· Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi
· Ruth Studley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Cymunedau yn Gyntaf
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:
· Manylion am y broses ar gyfer holi ynghylch cynlluniau llesiant byrddau gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);
· Nodyn o'r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, byrddau cyflawni lleol a byrddau gwasanaeth cyhoeddus ar drefniadau trosiannol;
· Copi o'r Canllawiau Pontio a Strategaeth a ddarparwyd i awdurdodau lleol;
· Nodyn ar werthusiad rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn, gan gynnwys unrhyw ddata sydd ar gael a'r meini prawf asesu;
· Nodyn yn rhoi rhagor o fanylion am y llwybr cyflogadwyedd ar ôl ymgysylltu â'r rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn;
· Copi o'r canllawiau ar y rhaglen ased cyfalaf.
3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017.
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017.
3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar y gyllideb ddrafft.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o faterion a nodwyd.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull a chytunodd i gynnal ymchwiliad undydd ar 13 Gorffennaf 2017.